13 Hydref 2015
Annwyl Jane
Adroddiad ar yr Alldro Terfynol ar gyfer 2014-15
Diolch am ddarparu'r adroddiad i'r Pwyllgor Cyllid.
Ar ôl ystyried yr adroddiad yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 1 Hydref, hoffai'r Aelodau gael eglurhad o'r canlynol:
¡ I ba raddau y mae'r tanwariant o £9.7 miliwn mewn refeniw nad yw'n arian parod a'r £21.4 miliwn o Wariant a Reolir yn Flynyddol a ddangosir yn yr adroddiad alldro yn adlewyrchu'r gwallau ym model HERO yr Adran Busnes a Sgiliau, a ddefnyddir i fodelu ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr? At hynny, a oes newidiadau wedi'u gwneud i'r model er mwyn ystyried polisïau cyllid myfyrwyr Llywodraeth Cymru?
¡ A yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith modelu manylach ar ddyledion myfyrwyr yn gyffredinol a'r llyfr benthyciadau i fyfyrwyr er mwyn amcangyfrif effaith hirdymor dyledion myfyrwyr?
¡ A fyddech cystal â rhoi diweddariad i'r Pwyllgor ar p'un a oes tystiolaeth nad oes angen i nifer gynyddol o raddedigion ad-dalu eu benthyciadau myfyrwyr am nad ydynt yn bodloni'r gofynion trothwy enillion angenrheidiol i wneud hynny, neu eu bod yn methu ag ad-dalu'r benthyciadau am resymau eraill?
¡ A fyddech cystal â rhoi diweddariad i'r Pwyllgor ar p'un a yw nifer y myfyrwyr sy'n rhoi'r gorau iddi cyn cwblhau eu cyrsiau yn cynyddu neu'n gostwng?
Rwy'n ymwybodol bod y cwestiynau hyn yn dilyn yr argymhellion a wnaed i Lywodraeth Cymru yn adroddiad y Pwyllgor ar Gyllid Addysg Uwch, ac felly rwy'n anfon copi o'r llythyr at Huw Lewis AC.
Hefyd, allech chi roi eglurhad o p'un a fydd unrhyw ran o'r cronfeydd refeniw anghyllidol o £54.3 miliwn a'r £20.3 miliwn o Derfyn Gwariant Adrannol anghyllidol a nodir yn nhabl 1 yn cael ei cholli ac a hysbyswyd y Trysorlys o hyn?
Edrychaf ymlaen at gael y wybodaeth hon.
Yn gywir
Jocelyn Davies AC
Cadeirydd